Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 20 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.33 - 10.30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
||||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Trafodaeth o’r sesiwn dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2014 - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru
2.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2014 a chytunodd i:
· anelu at ymweliad ag ysgol gyfagos i weld o lygad y ffynnon y gwaith a wnaed yno i greu acwsteg ardderchog i bawb yn yr ysgol;
· ysgrifennu at y Sefydliad Acwsteg a Chymdeithas Ymgynghorwyr Sŵn yn gofyn am gael gweld eu canllawiau ar acwsteg - disgwylir iddynt fod ar gael yn gynnar eleni; a
· cheisio gwybodaeth bellach am bolisi ac arfer yn Lloegr i weld beth y gellir ei ddysgu.
3 Deisebau newydd
3.1 P-04-609 Cefnogwch Fusnesau Bach - Cefnogwch ein Strydoedd Mawr.
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-04-440 : Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan geisio ymateb ganddo i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 17 Hydref y llynedd a’i farn ar sylwadau diweddaraf y deisebydd.
4.2 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ysgrifennu eto at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn mynegi pryder mawr yn niffyg ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda chopïau’n mynd at Gadeirydd y Bwrdd Iechyd a Chadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol; a
4.3 P-04-587 Tîm Cymorth pwrpasol ar gyfer dioddefwyr Enseffalomyelitis Myalgig (ME), Syndrom Blinder Cronig a Ffibromyalgia yn ne-ddwyrain Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog:
· gan dynnu ei sylw at sylwadau pellach y deisebwyr, yn enwedig eu pryderon bod yr cyflyrau hyn yn cael eu hystyried yn rhai seicolegol yn hytrach na rhai niwrolegol; ac
· i ofyn am ragor o wybodaeth am gynnydd tuag at sefydlu Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan.
4.4 P-04-600 Deiseb i Achub y Gwasanaeth Meddygon Teulu
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
Ar bwynt mwy cyffredinol, cytunodd y Pwyllgor y dylai Aelodau gael copïau o Flaenraglenni Gwaith Pwyllgorau eraill.
4.5 P-04-546 Magu anifeiliaid dan amodau annaturiol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, yn gofyn am ei barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb.
4.6 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus am ei farn ar sylwadau’r deisebydd, gan amlygu nifer o bwyntiau a wnaed yn ystod y drafodaeth.
4.7 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· anfon sylwadau'r deisebydd at yr Athro Donaldson yn gofyn iddynt gael eu hystyried yn ei adolygiad; ac
· ystyried y ddeiseb drachefn pan gyhoeddir adroddiad yr Athro Donaldson.
4.8 P-04-589 Lleihau Nifer y Cynghorwyr ac Aelodau Gweithredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebydd, yn gofyn am gadarnhad iddo dderbyn yr ohebiaeth wreiddiol ac a oes ganddo sylwadau i'w gwneud ar ohebiaeth y Gweinidog, ac yn ei hysbysu bod y Pwyllgor yn bwriadu cau'r ddeiseb.
4.9 P-04-591 Cyllid Teg ar gyfer Llywodraeth Leol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu eto at y deisebydd, gan ofyn am gadarnhad iddo dderbyn yr ohebiaeth wreiddiol ac a oes ganddo unrhyw sylwadau i'w gwneud ar ohebiaeth y Gweinidog, ac yn ei hysbysu bod y Pwyllgor yn bwriadu cau’r ddeiseb.
5 Adolygiad o'r System Ddeisebau
5.1 Trafododd y Pwyllgor lythyr y Llywydd lle mae’n cynnig adolygiad o system ddeisebau’r Cynulliad a chytunwyd:
· y dylai'r Pwyllgor wneud y gwaith y mae’r Llywydd yn gofyn amdano;
· y cylch gorchwyl a awgrymir yn ei llythyr; a
· dull cyffredinol y Pwyllgor ar gyfer yr adolygiad.